Croeso
Mae’n bleser gen i groesawu chi i wefan Ysgol Henry Richard, sydd yn darparu addysg i ddisgyblion o dair oed i un ar bymtheg. Gobeithio bydd y safle yn darparu gwybodaeth eang i chi ar wahanol agweddau o waith yr Ysgol ac yn sicrhau eich bod yn ymwybodol o’r gweithgareddau sy’n cymryd lle yn ystod y flwyddyn Ysgol.
Mae ein harwyddair ”Mewn llafur mae elw” yn crisialu ein nod o sicrhau fod pob disgybl yn cyrraedd ei botensial trwy weithio’n galed a hynny gyda chymorth ein athrawon ymroddedig. Rydym yma i gydweithio i greu ysgol hapus a llwyddiannus o’r radd flaenaf. Disgwyliwn y safon gorau posib gan ein disgyblion ac fe wnawn ni ein gorau i roi pob cyfle ac arweiniad posib iddynt hwy. O fewn cymuned yr ysgol, credwn yn gryf ei fod yn bwysig dathlu a chydnabod llwyddiant academaidd, diwylliannol a chwaraeon ein disgyblion ac mae cyfle i chi dystio i hynny ar y wefan yma
Mae gan yr ysgol hunaniaeth Gymreig gref sy’n adlewyrchu’r ardal, y disgyblion a’r teuluoedd y mae’n ei gwasanaethu. Drwy’r ‘Cwricwlwm Cymreig’, yn ddyddiol, rydym yn hybu’n weithredol yr iaith Gymraeg, hanes a diwylliant Cymru. Cynigiwn addysg drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg yn y rhan helaeth o’r pynciau.
Credwn mewn cydweithio mewn partneriaeth gyda rhieni ac asiantaethau allanol i ymgyrraedd at y gorau i’n disgyblion. Gofynnir i rieni i gyd arwyddo cytundeb Ysgol Cartref sy’n cydnabod yn ffurfiol y bartneriaeth hon drwy adnabod yr ardaloedd y gallwn gydweithio gyda’n gilydd.
Ein gweledigaeth yw ”Gweithio gyda’n gilydd i greu Ysgol lwyddiannus a fydd yn sicrhau fod pob disgybl yn cyrraedd ei lawn botensial o fewn amgylchedd diogel, heriol, cefnogol a chyfeillgar.”
Dorian Pugh
Pennaeth