Skip to content ↓

GWISG YSGOL ​​​​​​​

Rhan annatod o draddodiad ysgol yw balchder yn ei gwisg arbennig ac mae disgyblion Ysgol Henry Richard eisoes yn falch iawn o’u gwisg ysgol.  Credwn ei fod yn gwneud i’r disgybl deimlo yr un mor bwysig ag unrhyw ddisgybl arall a’i fod yn aelod o dîm a chyfundrefn.  Disgwylir i’r disgybl gynnal safon o daclusrwydd a chywirdeb mewn gwisg bob amser.  Ystyrir bod gwisgo’r wisg ysgol yn rhan hanfodol o ddisgyblaeth yr ysgol ac mae’n orfodol i ddisgyblion o flwyddyn 7 – 11.

 Coch a llwyd yw’r prif liwiau.

Gwisg i fyny at flwyddyn 6 
 

Sgert ddu hyd y benglin neu

Trowser traddodiadol du (dim jeans / leggings / jeggings)

Crys polo – Marl Grey (Trutex) gyda logo’r ysgol

Crys Chwys – Scarlet (Trutex) gyda logo’r ysgol

Gwisg Haf opsiynol

Siorts du wedi teilwrio

 

 

Gwisg blynyddoedd 7 – 11 

 

Sgert ddu hyd y benglin
neu

Trowser traddodiadol du (dim jeans / leggings / jeggings)

Crys gwyn (llewys byr neu hir)

Tei Ysgol wedi’i gynllunio’n arbennig

Siwmper gwddf V llwyd tywyll (profoma50) gyda llinell coch a du o amgylch y gwddf a logo’r ysgol

Opsiynol - Blazer du gyda logo’r ysgol

Esgidiau du

sanau /teits du

Gwisg opsiynol Tymor yr Haf

Crys polo coch gyda logo’r ysgol

Bechgyn – siorts du wedi teilwrio

 

 Cit chwaraeon blynyddoedd 7-11

Cit Chwaraeon Gorfodol blynyddoedd 7 – 11
 

Crys polo chwaraeon gyda logo’r ysgol – coch gyda phaneli ochr ddu (100% polyester chwaraeon)

‘fit’ safonol neu ‘fit’ merched

Merched - ‘Skort’ gyda logo’r Ysgol - coch gyda phaneli ochr ddu (100% polyester chwaraeon)

Bechgyn - Siorts du gyda logo’r ysgol

Sanau – ‘hoops’ coch a du

Cit Chwaraeon opsiynol blynyddoedd 7 – 11
 

Hoodie’ gyda logo’r ysgol – du gyda phaneli ochr coch (Polyester/cotwm)

Trowser chwaraeon / tracwisg – du 

cyflenwyr 

Mae’r wisg ar gael oddi wrth:

Alison Jones Schoolwear
01970 625288 / 07808174847
alisonjones.schoolwear@btinternet.com

a

GG Designs

01570 493561 / 07969 295206

gg.designs@outlook.com  

Cefnogaeth ariannol i brynu gwisg ysgol

Mae Llywodraeth Cymru wedi ehangu’n ddiweddar yr elfen ychwanegol i’r Grant Datblygu Disgyblion (PDG) a gymerodd le yr hen Grant Gwisg Ysgol yn 2018/19. Mae’r grant yn gallu cael ei ddefnyddio i brynu gwisg ysgol, offer, dillad chwaraeon a dillad ar gyfer gweithgareddau y tu allan i’r ysgol o’ch plentyn. Ar gyfer rheiny sy’n mynychu ysgol yng Ngheredigion: bydd disgyblion Derbyn, Blwyddyn 3 a Blwyddyn 10 sy’n gymwys yn derbyn £125, tra bydd disgyblion Blwyddyn 7 sy’n gymwys yn derbyn £200.
Dilynwch y cyswllt isod ar gyfer mwy o wybodaeth: