Skip to content ↓

Ffês 2

Ffês 2 yw ffês ganol yr ysgol ar gyfer disgyblion ym mlynyddoedd 5 i 8. Bydd y disgyblion yn Ffês 2 yn parhau i ddatblygu eu sgiliau gan sicrhau trosglwyddiad effeithiol o’r cyfnodau cynradd i'r uwchradd traddodiadol. Yn ogystal, dyma’r Ffês bwysig lle rydym yn cael croesawu i’n plith y disgyblion hynny sy’n ymuno â’r ysgol ar gyfer eu haddysg uwchradd.

Yn ystod blynyddoedd 5 a 6, bydd y disgyblion yn astudio'r pynciau canlynol: 

Cymraeg, Saesneg, Mathemateg, Gwyddoniaeth, Technoleg, Technoleg Gwybodaeth, Astudiaethau Crefyddol, Daearyddiaeth, Ffrangeg, Hanes, Addysg Gorfforol, Addysg Bersonol a Chymdeithasol, Celf a Cherddoriaeth. Caiff disgyblion Blynyddoedd 5 a 6 eu haddysgu yn y sector cynradd gan athrawon dosbarth yn ogystal a gan arbenigwyr uwchradd er mwyn cyfoethogi eu profiadau a sicrhau y gallant fanteisio ar holl gyfleusterau Ysgol Henry Richard. Maent yn rhannu amser cinio ac amseroedd chwarae gyda disgyblion Ffês 1.

Yn ystod blynyddoedd 7 ac 8, bydd y disgyblion yn astudio'r pynciau canlynol: 

Cymraeg, Saesneg, Mathemateg, Gwyddoniaeth, Ffangeg, Technoleg, Bwyd a Maeth, Technoleg Gwybodaeth, Astudiaethau Crefyddol, Daearyddiaeth, Hanes, Addysg Gorfforol, Addysg Bersonol a Chymdeithasol, Celf, Cerddoriaeth, Drama a Thema. Mae Cwricwlwm Blynyddoedd 7 ac 8 yn eang a chytbwys er mwyn eu paratoi tuag at gwneud dewisiadau pwysig ar ddiwedd blwyddyn 8.

Arweinydd Ffês 2:- Mr Iwan Davies