Skip to content ↓

Ffês 1

Dechreuir taith addysgol disgyblion Ysgol Henry Richard yn y Meithrin fel y cam cyntaf yn Ffês 1. Yn gyffredinol, derbynnir plant i’r Meithrin yn rhan-amser yn ystod y tymor ar ôl eu pen-blwydd yn 3 oed. Yn yr un modd, cychwynnir yn y Dosbarth Derbyn y tymor ar ôl eu pen-blwydd yn 4 oed. Gweler tabl trefniadau cofrestru isod:

  Oedran Dyddiad y mae'n rhaid cyrraedd yr oed priodol Dyddiad dechrau
Rhan amser 3 Awst 31ain Tymor yr Hydref
Rhan amser 3 Rhagfyr 31ain Tymor y Gwanwyn
Rhan amser 3 Mawrth 31ain Tymor yr Haf
Llawn amser 4 Awst 31ain Tymor yr Hydref
Full Time 4 Rhagfyr 31ain Tymor y Gwanwyn
Full Time 4 Mawrth 31ain Tymor yr Haf

O oed Meithrin hyd at ddiwedd Blwyddyn 2, bydd eich plentyn yn dilyn cwricwlwm y Cyfnod Sylfaen. Yn ystod y cyfnod yma mi fydd yn astudio’r meysydd canlynol:

  • Datblygiad Personol a Chymdeithasol, Lles ac Amrywiaeth Ddiwylliannol
  • Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu
  • Datblygiad Mathemategol
  • Gwybodaeth a Dealltwriaeth o’r Byd
  • Datblygiad Corfforol
  • Datblygiad Creadigol

Ym mlynyddoedd 3 a 4 cyflwynir y Cwricwlwm Cenedlaethol ar ffurf gweithgareddau thematig a phynciol. Dilynir themâu ‘Cornerstones’ ar gylchdro o 4 mlynedd. Ein bwriad yw cynnig darpariaeth gyfoethog i bawb sydd ar flaen y gad, gan roi profiadau byth gofiadwy i’r dysgwyr. Caiff y dysgwyr gyfle i fynd ar drip sbardun unwaith y tymor pan fo hynny’n bosibl.

Yng mlynyddoedd 3 a 4 bydd eich plentyn yn astudio’r pynciau canlynol:

Cymraeg, Saesneg, Mathemateg, Gwyddoniaeth, Technoleg, Technoleg Gwybodaeth, Astudiaethau Crefyddol, Daearyddiaeth, Hanes, Addysg Gorfforol, Addysg Bersonol a Chymdeithasol, Celf a  Cherddoriaeth.

Arweinydd Cynnydd Ffês 1 yw Mrs Carys Stephens