Skip to content ↓

Rhieni

Ein rhieni yw un o’n partneriaid pwysicaf fel ysgol. Rydym yn credu’n gryf mewn rhannu’n gyson gyda rhieni y cynnydd mae eu plant yn ei wneud yn ogystal â hysbysu am yr holl ddigwyddiadau a newyddion. Defnyddir system parentmail i ddanfon llythyron a negeseuon i rieni. Gwelir y newyddion diweddaraf am yr ysgol ar ein gwefannau cymdeithasol ac ar y wefan hon.

Mae cydweithio gyda rhieni yn holl bwysig i ni fel ysgol a chasglwn safbwyntiau rhieni yn gyson trwy holiaduron a chyfarfodydd.

Rydym ni hefyd yn trefnu nosweithiau agored a nosweithiau ymgynghorol drwy gydol y flwyddyn i rannu gwybodaeth am y cwricwlwm a chynnydd ein disgyblion. Ceir yr holl wybodaeth hynny yng nghalendr yr ysgol.

Edrychwn ymlaen at gydweithio gyda chi!