Skip to content ↓

ParentMail

Yn Ysgol Henry Richard rydym yn defnyddio ParentMail, gwasanaeth a ddefnyddir gan dros 6,000 o ysgolion, meithrinfeydd a chlybiau plant i gyfathrebu â rhieni ac i gasglu taliadau. Bydd ParentMail yn fuddiol i chi oherwydd:

  • Bydd negeseuon yn cyrraedd chi yn ddibynadwy ac ar amser.
  • Gallwn anfon negeseuon yn uniongyrchol at famau, tadau a gofalwyr eraill ar yr un pryd.
  • Gellir anfon gwybodaeth frys neu bwysig trwy neges destun.
  • Apiau iPhone ac Android ar gael i rieni wrth fynd.
  • Ffordd ddiogel a hawdd o dalu am brydau bwyd a theithiau ysgol.

 

I ddefnyddio'r fersiwn ddiweddaraf o ParentMail y cyfan sy'n rhaid i chi ei wneud yw gwirio'ch cyfrif. Anfonir naill ai e-bost neu neges destun oddi wrth ParentMail, pan dderbyniwch hwn dilynwch y cyfarwyddiadau isod. Os oes gennych rif ffôn symudol a chyfeiriad e-bost wedi'u cofrestru ar eich cyfrif, byddwch yn derbyn gwahoddiad cofrestru trwy neges destun ac e-bost. Gallwch chi benderfynu pa ffordd rydych chi'n cofrestru - ond dim ond unwaith y bydd angen i chi gofrestru.

Cofrestru symudol:

Cliciwch ar y ddolen o'r neges destun a dilynwch y broses ddilysu. Gofynnir i chi nodi rhai manylion, ateb cwestiwn diogelwch i wirio pwy ydych chi a gosod cyfrinair ar gyfer eich cyfrif.

Cofrestru ebost:

Cliciwch ar y ddolen o'r e-bost a dilynwch y broses ddilysu. Fel uchod, gofynnir i chi nodi rhai manylion, ateb cwestiwn diogelwch i wirio pwy ydych chi a gosod cyfrinair ar gyfer eich cyfrif.

Gallwn eich sicrhau fod ParentMail wedi'i gofrestru gyda'r Comisiynydd Gwybodaeth ac yn gwarantu y bydd yr holl wybodaeth a roddwch yn cael ei chadw'n breifat ac na fydd yn cael ei throsglwyddo i unrhyw sefydliad arall.

Os nad ydych wedi derbyn unrhyw gyswllt gan ParentMail cyn pen 7 diwrnod, cysylltwch â'r ysgol i ddiweddaru'ch gwybodaeth gyswllt, oherwydd gallai hyn fod wedi dyddio.