Skip to content ↓

Cyngor Eco

Mae'r rhaglen Eco-sgolion yn annog disgyblion i gymryd rhan mewn materion amgylcheddol a datblygu cynaliadwy. Mae gan Ysgol Henry Richard Cyngor Eco sydd yn cyfarfod yn fisol. Y disgyblion sydd yn cymryd y prif rannau wrth wneud penderfyniadau a chyfranogi er mwyn lleihau effaith amgylcheddol yr ysgol. Mae'r cynllun Eco-sgolion yn ymestyn y tu hwnt i'r dosbarth ac yn datblygu agweddau o ddinasyddiaeth gyfrifol, gartref ac yn y gymuned ehangach. Dyma’r meysydd rydym yn canolbwyntio arno : Sbwriel, Lleihau Gwastraff, Cludiant, Byw'n Iach, Ynni, Dŵr, Tir yr Ysgol a Dinasyddiaeth Fyd-eang.