Skip to content ↓

Croeso

Mae’n bleser gen i groesawu chi i wefan Ysgol Henry Richard, sydd yn darparu addysg i ddisgyblion o dair oed i un ar bymtheg. Gobeithio bydd y safle yn darparu gwybodaeth eang i chi ar wahanol agweddau o waith yr Ysgol ac yn sicrhau eich bod yn ymwybodol o’r gweithgareddau sy’n cymryd lle yn ystod y flwyddyn Ysgol.

Ein gweledigaeth yw sicrhau ysgol gynhwysol sy’n cefnogi pob un dysgwr i lwyddo ar draws ein cwricwlwm mewn amgylchedd hapus, cefnogol ac uchelgeisiol. Mae datblygu a pharatoi dysgwyr i fod yn wybodus a chymryd rhan weithredol yn eu cymunedau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol yn greiddiol i'r ddealltwriaeth o werthoedd ysgol a gaiff ei hadlewyrchu yn eu dewisiadau yn y dyfodol a gweithredu ein harwyddair "Mewn Llafur Mae Elw" ar bob lefel gymdeithasol a phersonol. Mae llais ein dysgwyr yn hanfodol trwy gydol eu taith yn yr ysgol hon, gan arwain at gwricwlwm cytbwys ac eang er mwyn meithrin annibyniaeth, hyder a gwytnwch ar gyfer paratoi ar gyfer dyfodol disglair.

Mae gan yr ysgol hunaniaeth Gymreig gref sy’n adlewyrchu’r ardal, y disgyblion a’r teuluoedd y mae’n ei gwasanaethu.  Drwy’r  ‘Cwricwlwm Cymreig’, yn ddyddiol, rydym yn hybu’n weithredol yr iaith Gymraeg, hanes a diwylliant Cymru.  Cynigiwn addysg drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg  yn y rhan helaeth o’r pynciau.

Credwn mewn cydweithio mewn partneriaeth gyda rhieni ac asiantaethau allanol i ymgyrraedd at y gorau i’n disgyblion.  Gofynnir i rieni i gyd arwyddo cytundeb Ysgol Cartref sy’n cydnabod yn ffurfiol y bartneriaeth hon drwy adnabod yr ardaloedd y gallwn gydweithio gyda’n gilydd.

Dorian Pugh
Pennaeth