Diwrnod Shwmae Su'mae
Diwrnod llawn o weithgareddau i annog pawb i ddefnyddio'r iaith Gymraeg
Er mwyn dathlu Diwrnod Shwmae Su’mae eleni aeth pob dosbarth cofrestru yn yr ysgol ati i gymryd rhan mewn cystadleuaeth i greu’r gair ‘Shwmae’ mewn ffordd unigryw. Diolch enfawr i Siani Sionc am feirniadu’r gystadleuaeth a llongyfarchiadau i ddosbarth Dewi (Meithrin a Derbyn) am ennill!