Skip to content ↓

Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd

Codwyd £500 i'r elusennau Tir Dewi a DPJ Foundation

I godi ymwybyddiaeth o Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd eleni, penderfynodd y Cyngor Ysgol i gasglu arian ar gyfer elusen Tir Dewi ac elusen DPJ Foundation, sef elusennau sy'n agos iawn at galonnau nifer o bobl yn yr ardal hon. Ar ddydd Gwener, Hydref 8fed, daeth pawb i’r ysgol yn gwisgo welis neu’n gwisgo fel ffermwr er mwyn casglu arian a chodi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl ymhlith amaethwyr.
Llwyddwyd i godi swm arbennig o £455 a fydd yn cael ei rannu rhwng y ddwy elusen. Diolch i bawb am eu haelioni. 
 

Er mwyn codi ymwybyddiaeth bellach o’r diwrnod gwnaeth Blwyddyn 6, Dosbarth Penpica,  gynhyrchiad er mwyn rhannu negeseuon a chyngor pwysig am Iechyd Meddwl.