Skip to content ↓

Nôl ar y Caeau Chwarae!

Mor hyfryd i weld gemau cystadleuol nôl ar y caeau chwarae o'r diwedd!

Rydyn ni mor falch i weld gemau cystadleuol nôl ar gaeau Henry Richard! Dros yr wythnosau diwethaf mae’r bechgyn a’r merched wedi cael gemau o rygbi, pêl-droed, hoci a phêl-rwyd yn erbyn ysgolion eraill ar gaeau’r ysgol ac ar gaeau ysgolion eraill. Chwaraeodd y disgyblion gyda brwdfrydedd a rhaid eu canmol am ymdrech ac agwedd arbennig o dda yn yr holl gemau gyda nifer o berfformiadau unigol gwych. Edrychwn ymlaen at weld rhagor o gystadlu brwd dros y misoedd nesaf.