Skip to content ↓

Llwyddiannau Eisteddfod T

Roedd nifer o ddisgyblion yn llwyddiannus yn Eisteddfod T eleni - cliciwch yma i ddarllen am y cwbl. 

Cafwyd tipyn o lwyddiant yn Eisteddfod T yr Urdd eleni. I ddechrau, nid yn unig y llwyddodd Arthur Evans, Blwyddyn 1 i ennill y 3edd wobr am Unawd Canu Bl 3 ac iau ond wedyn aeth ymlaen i gipio’r wobr gyntaf yng nghystadleuaeth y Llefaru i Fl 3 ac iau. Llongyfarchiadau enfawr iddo!

Y diwrnod canlynol llwyddodd Mari Williams i gipio’r ail wobr yng nghystadleuaeth y Llefaru Unigol i Flynyddoedd 4, 5 a 6. Da iawn ti Mari!

Cafwyd llwyddiannau hefyd ym myd y celf a chrefft gyda brawd a chwaer yn llwyddo i ennill cystadlaethau graffeg cyfrifiadurol. Llongyfarchiadau enfawr i Mali a Tomos Jones.

Roedd côr staff a disgyblion yr ysgol yn hynod o falch o gyrraedd y 6 olaf yng nghystadleuaeth Côr Cymunedol am eu perfformiad o ‘Gorwedd gyda’i Nerth’. Roedd y gystadleuaeth yn gyfle i staff a disgyblion yr ysgol ddod ynghyd i greu côr o 5 i 45 oed! Mae ein diolch yn fawr i Miss Sara Davies am arwain a chydlynu’r côr mor ardderchog.

Cliciwch yma i wylio perfformiad y côr.

Yn ogystal â mewn cystadlaethau, gwelwyd rhai o ddisgyblion eraill yr ysgol ar y sgrîn fach yn ystod yr wythnos honno. Gwnaeth Lisa Bulman a Megan Davies gynrychioli’r ysgol drwy gydweithio gyda rhai o ysgolion eraill Uwchradd Ceredigion a Bardd Plant Cymru eleni, sef Gruffudd Owen, ar gyfansoddi Cerdd Groeso. Enw’r gerdd oedd ‘Ddoi di gen i i Langrannog?’ a chyhoeddwyd hi drwy ffilm effeithiol ar ddechrau wythnos yr Eisteddfod. Da iawn chi!