Skip to content ↓

'Steddfod Sgrîn YHR 2021

Bu tipyn o fwrlwm yn yr ysgol yn ddiweddar wrth i ni gynnal Eisteddfod ysgol rithiol.

Gwelwyd pob math o gystadlu o’r traddodiadol megis unawdwyr, llefarwyr, eitemau offerynnol a chelf i eitemau hollol wahanol fel ‘Sgen ti Dalent? a chystadleuaeth ‘Dod ag Idiom yn fyw’. Y bwriad eleni oedd rhoi cyfle i bawb fedru cymryd rhan mewn rhyw ffordd a braf oedd gweld eitemau na fydden ni fel arfer yn eu gweld ar lwyfan y neuadd. 
Gwahoddwyd llwyth o enwogion Cymru i feirniadu ac mae ein gwerthfawrogiad yn fawr iddynt am gymryd yr amser i feirniadu a danfon eu beirniadaethau drwy’r sgrîn.  Rhannwyd yr holl ganlyniadau ar Microsoft Teams yr ysgol ac yn gyhoeddus drwy ein gwefannau cymdeithasol. 
Eleni, cyhoeddodd Hanna Hopwood mai Megan Dafydd oedd wedi ennill y Gadair ac mai Zara Evans oedd wedi cipio’r Darian. Llongyfarchiadau hefyd i Mari Williams ac Ola Maziarz am ennill Cadair a Tharian Blwyddyn 5 a 6. 
Ar ddydd Llun, Ebrill 26ain, cyhoeddwyd mai Teifi oedd yn fuddugol eleni gydag Aeron yn ail agos a thŷ Ystwyth yn drydydd. Llongyfarchiadau i Catrin Lloyd a Megan Herberts, capteiniaid Teifi ac i’r dirprwy gapteiniaid, Elin Davies a Tomos Lloyd am arwain eu tŷ i fuddugoliaeth mewn Eisteddfod gwahanol ac unigryw. 
Llongyfarchiadau yn ogystal i’r canlynol am dderbyn gwobrau arbennig o ganlyniad i’w llwyddiant yn yr Eisteddfod.