Adnodd Chwaraeon Newydd Sbon!
Pleser yw cyhoeddi bod adnodd chwaraeon newydd sbon yr ysgol bellach yn ei le ar gyfer disgyblion Ysgol Henry Richard.
Roedd y Cyngor Ysgol wedi nodi eu dymuniad am drawsnewid y llecyn yng nghanol yr ysgol. Mae’r adnodd newydd yn ddefnyddiol tu hwnt yn enwedig gyda’r angen am bellhau cymdeithasol rhwng grwpiau cyswllt. Diolch i gwmni Sport Safe Uk.