Diwrnod Trwynau Coch 2021
Archarwyr, Gwisgo Coch , a Thaflu Trwynau Coch!
Roedd dydd Gwener, Mawrth 19eg yn ddiwrnod Trwynau Coch. Eleni, fe benderfynodd y Cyngor Ysgol ofyn i bawb wisgo fel archarwr neu mewn lliw coch a chyfrannu i elusen Comic Relief.
Hefyd, crewyd ffilm i godi ymwybyddiaeth o’r diwrnod, gyda staff a disgyblion yr ysgol yn esgus danfon trwyn coch o un i’r llall. Gallwch wylio’r ffilm eto ar ôl y lluniau isod.
Diolch i bawb, a gyfrannodd at yr achos da, am eich haelioni. Llwyddwyd i godi £350 tuag at yr elusen.