Skip to content ↓

Cystadleuaeth Ffotograffiaeth 'Saib o'r Sgrîn'

Cystadleuaeth Ffotograffiaeth ysgol gyfan

Dros hanner tymor Chwefror, gosodwyd cystadleuaeth ffotograffiaeth ysgol gyfan i’r disgyblion o dan y teitl ‘Saib o’r Sgrîn’. Cyrhaeddodd llwyth o luniau gyda phob math o olygfeydd godidog. Cafodd y beirniad, Sue Ryder, wres ei thraed wrth feirniadu! Rhoddwyd gwobr i’r cyntaf o bob ffês sef Catrin Jones, Blwyddyn 1, Iago Evans, Blwyddyn 6 a Courtney Gilbert Blwyddyn 9.

Cafodd pob enillydd gopi o’u llun wedi fframio. Llongyfarchiadau i bob un a diolch o galon i Susanne Ryder am feirniadu.