Wythnos Iechyd Meddwl Plant
Cynhaliwyd wythnos lawn o weithgareddau yn ystod Wythnos Iechyd Meddwl Plant 2021
Roedd wythnos gyntaf Chwefror yn Wythnos Iechyd Meddwl Plant 2021. Yn ystod yr wythnos gwnaethom gynnal cystadleuaeth a gwahanol weithgareddau i godi ymwybyddiaeth o'r digwyddiad a'r negeseuon pwysig. Dechreuwyd ar y gweithgareddau gyda gwasanaeth ysgol gyfan i danlinellu is-thema'r wythnos eleni sef 'Mynegwch eich Hunain'.
Yng nghanol wythnos lawn o weithgareddau bu rhai o swyddogion Blwyddyn 11 yr ysgol yn darllen storiau gyda negeseuon pwysig am les a charedigrwydd i ddisgyblion Ffês 1.