Skip to content ↓

Sesiynau Ffitrwydd Rhithiol

Cyflwynwyd sesiynau lles a fitrwydd byr yn rhithiol i'r staff ac yna i'r gymuned gyfan.

Mae pobl o bob oed yn y gymuned yn gweld mai'r trydydd cyfnod clo estynedig hwn yw'r anoddaf ac fel ysgol roeddem yn awyddus i feddwl am fenter i ymgysylltu â'r gymuned. Mae sesiynau ffitrwydd byw wedi dod yn nodwedd reolaidd yn amserlen yr ysgol ar gyfer yr holl ddisgyblion yn Ysgol Henry Richard ac yn dilyn llwyddiant cyflwyno sesiynau ffitrwydd byw i'r staff, fe benderfynon ni estyn allan ymhellach.

Rydym yn gwbl ymwybodol bod rhieni ac aelodau o'r gymuned fel disgyblion a staff ysgolion yn treulio llawer mwy o amser o flaen y sgrin , felly roeddem am roi cyfle i bawb gael seibiant sgrin a dosbarth ymarfer corff byr wedi'i ysbrydoli gan Joe Wicks bob bore Gwener. Mae'r ymateb a'r ymgysylltiad gan y gymuned wedi bod yn wych gydag adborth cadarnhaol iawn.