Gwasanaeth Nadolig Rhithiol
Cadwyd traddodiad diwrnod ola'r tymor yn fyw drwy wasanaeth rhithiol.
Fel arfer, ar ddiwrnod olaf y tymor, bydden ni i gyd, yn staff ac yn ddisgyblion, yn ymlwybro lawr i Gapel Bwlchgwynt ar gyfer y Gwasanaeth Carolau. Wrth gwrs, nid oedd hyn yn bosib eleni ond ni wnaeth hyn ein hatal ni rhag cadw'r traddodiad pwysig i fynd.
Cyflwynwyd gwasanaeth Nadolig rhithiol yn llawn canu, darlleniadau, PicTôns a chôr arbennig o staff a disgyblion yr ysgol. Gallwch wylio’r gwasanaeth isod.
Diolch i bawb a gyfrannodd at y gwasanaeth mewn unrhyw ffordd.