Skip to content ↓

Llwyddiannau Siarad Cyhoeddus!

Llongyfarchiadau i Rhiannon, Megan and Zara am eu llwyddiannau mewn cystadleuaeth Siarad Cyhoeddus Cenedlaethol.

Llwyddodd ein tîm siarad cyhoeddus Cymraeg eleni i gipio'r trydydd safle yng nghystadleuaeth Siarad Cyhoeddus Y Roteri. Tipyn o gamp i'r merched o flwyddyn 11, gan eu bod yn cystadlu yn erbyn nifer o ddisgyblion chweched dosbarth o ysgolion De a Gorllewin Cymru.


Cadeirydd y tîm oedd Rhiannon Jones, y Cynigydd oedd Megan Dafydd, a'r gwrthwynebydd eleni oedd Zara Evans. Dadlau yw tasg y siaradwyr gyda'r cadeirydd yn cadw rheolaeth. Gosodiad y ddadl eleni oedd "Cred y tŷ hwn taw dwli yw gofidio." Testun addas iawn o dan yr amgylchiadau rhyfedd eleni. Cynhaliwyd y gystadleuaeth ar sgrîn, wrth reswm, felly tasg anodd oedd cysylltu â'r gynulleidfa a chreu perthynas, ond llwyddodd y merched i greu argraff yn amlwg. Da iawn chi ferched!