Skip to content ↓

Beirdd Ifanc yn Llwyddo

Llongyfarchiadau i ddau o'n beirdd ifanc am eu llwyddiannau mewn cystadleuaeth barddoniaeth.

Yn ystod yr wythnosau diwethaf, bu blynyddoedd 5 - 9 yn cystadlu yng nghystadleuaeth ysgrifennu barddoniaeth Y Siarter Iaith, Ceredigion. Thema'r cerddi, wrth gwrs, oedd Y Nadolig, a llongyfarchiadau mawr i Elin Williams o flwyddyn 8 am gipio'r wobr gyntaf yn y categori CA3 a Harri Evans o flwyddyn 9 yn drydydd. Yn ôl y beirniad, Nerys Llewelyn, roedd cerdd Elin yn "sefyll allan" a'r "delweddu yn wych." Bydd Elin yn derbyn taleb o £10 a bydd Bardd Plant Cymru'n ymweld â'r ysgol hefyd, diolch i'w thalent a'i llwyddiant. Llongyfarchiadau mawr! Dyma'r gerdd fuddugol i chi i'w mwynhau: