Sioe Rithiol 'Yr Heriau Hud'
Sioe Rithiol gwych gan Tudur Phillips ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 2.
Cafodd disgyblion Cyfnod Allweddol 2 amser wrth eu boddau ar brynhawn dydd Iau, Rhagfyr 10fed. Cawsant gyfle i wylio a chymryd rhan yn sioe rithiol Tudur Phillips, Yr Heriau Hud. Roedd llawer o sbort, dawnsio a chwerthin. Diolch Tudur am ein diddanu mor wych drwy'r prynhawn!