Cinio Nadolig Blasus
Unwaith eto eleni, gwnaeth holl ddisgyblion a staff yr ysgol fwynhau cinio Nadolig blasus!
Cafwyd cinio Nadolig blasus unwaith eto eleni a braf oedd gweld disgyblion ifancaf yr ysgol mor swanc yn eu hetiau hardd. Diolch i staff y ffreutur am baratoi pryd mor arbennig o fwyd a diolch hefyd am eu gwaith diflino trwy gydol y flwyddyn.