Ffair Nadolig Rithiol
Cynhaliwyd Ffair Nadolig Rithiol eleni er mwyn dechrau ar ddathliadau'r Nadolig
Fel arfer yn ystod yr wythnos cyn y Nadolig fe fyddai tipyn o fwrlwm yn yr ysgol wrth i ni baratoi at lwyth o ddigwyddiadau Nadoligaidd. Doedd y cyfyngiadau ddim yn mynd i’n hatal ni rhag barhau i ddathlu hwyl yr wyl. Felly aethpwyd ati yn gyntaf i drefnu Ffair Nadolig Rithiol. Gwahoddwyd busnesau bach a mawr yr ardal i ymuno. Crewyd gwefan newydd yn arbennig ar gyfer y digwyddiad a rhoddwyd hysbysebion dyddiol ar wefannau cymdeithasol yr ysgol.
Hoffai’r ysgol ddiolch o galon i bawb a gefnogodd y digwyddiad mewn unrhyw ffordd boed drwy hysbysebu eich busnes, cyfrannu raffl neu drwy brynu cynnyrch y disgyblion.