Skip to content ↓

Pontio ar gyfer Blwyddyn 6

Cynhaliwyd sesiwn arall o Bontio ar gyfer disgyblion Blwyddyn 6

Ar Dachwedd 26ain fe wnaeth disgyblion Blwyddyn 6 y dalgylch fwynhau eu hail sesiwn o Bontio rhithiol. Y tro hwn, tro’r gyfadran Fathemateg a Rhifedd oedd darparu a threfnu’r gweithgareddau. Roedd hi’n hyfryd gweld cymaint o ddisgyblion…er bod hynny drwy’r sgrîn. Cofiwch glicio ar y tab 'Gwybodaeth' os hoffech ragor o fanylion am yr hyn sydd gan yr ysgol i’w chynnig.