Skip to content ↓

Noson Agored Rhithiol llwyddiannus i fl 6

Oherwydd cyfyngiadau Covid eleni, cynhaliwd noson agored rhithiol i ddisgyblion blwyddyn 6.

Ar yr adeg hon o'r flwyddyn, fel arfer, cynhelir noson agored yn yr ysgol a gwahoddir disgyblion Blwyddyn 6 o ysgolion y dalgylch, a'u rhieni, i ymweld â'r ysgol ac i dderbyn gwybodaeth.

Eleni, oherwydd Covid, nid oeddem yn gallu gwahodd pawb i mewn i'r ysgol, felly cynhaliwyd noson agored rhithiol ar ddydd Llun, Tachwedd 9fed. Cynhaliwyd digwyddiad byw drwy Teams lle siaradodd Mr Pugh â'r mynychwyr ac ateb eu cwestiynau trwy'r adnodd Holi ac Ateb. Cafwyd cyflwyniad hefyd gan Megan a Zara, y Prif Ddisgyblion. Roedd pob cyfadran wedi paratoi cyflwyniad i gyflwyno eu hunain a rhoi gwybodaeth am eu pynciau.

Os gwnaethoch chi golli'r digwyddiad gallwch ei wylio eto yn y ffilm isod. Gallwch hefyd ymweld â'r dudalen Noson Agored Rhithiol , o dan y tab Gwybodaeth, ar ein gwefan i ddewis a gweld unrhyw un o'r cyflwyniadau a baratowyd gan y cyfadrannau.

Cofiwch gysylltu os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â'r ysgol.