Skip to content ↓

Codi £1360 ar gyfer Plant Mewn Angen

Llwyddodd disgyblion a staff Ysgol Henry Richard i godi swm anhygoel ar gyfer Plant Mewn Angen eleni. 

Cafwyd diwrnod gwych ar ddydd Gwener, Tachwedd 13eg, wrth godi arian i Blant Mewn Angen, yn llawn pyjamas, onesies a heriau #ActiaDyOed ffantastig! I ddathlu penblwydd Pudsey yn 40 oed gwnaeth nifer o ddisgyblion a staff yr ysgol osod sialensiau i'w hunain yn ddibynnol ar eu hoedran.

Gwyliwch y ffilm isod i gael blas o'r hwyl. Da iawn i bawb a gymerodd ran a diolch o galon i bawb am gyfrannu. Llwyddwyd i godi swm hollol anhygoel o £1360!