Chwant gwerthu nwyddau yn ein Ffair Nadolig?
Byddwn yn parhau i gynnal ein Ffair Nadolig flynyddol, er gwaethaf Covid! Os oes gennych fusnes bach ac yr hoffech werthu eich nwyddau yn ein digwyddiad rhithwir - cysylltwch â ni!
Beth am sefydlu stondin ar-lein?
Addurniadau, cardiau neu anrhegion? Dyma'r lle delfrydol i ddal y siopwyr Nadolig lleol a gwerthu'ch nwyddau.
Nid oes unrhyw gost am y stondin ond gofynnwn yn garedig am rodd i'n raffl ar-lein.
Byddwn yn creu gwefan i hysbysebu'ch cwmni.
Byddwn yn defnyddio ein llwyfannau cyfryngau cymdeithasol i hysbysebu gwahanol fusnesau bob dydd.
Byddai unrhyw luniau neu glipiau fideo sydd gennych eisoes yn help mawr.
Cysylltwch â ni ar:-
h.bonner@henryrichard.ceredigion.sch.uk neu trwy ein tudalen Facebook.