Skip to content ↓

Cyhoeddi'r Cyngor Ysgol

Cynhaliodd ein prif ddisgyblion wasanaeth rithiol ysgol-gyfan er mwyn cyhoeddi pwy sydd wedi eu hethol ar y cynghorau ffês eleni. 

Ar ddydd Gwener, Hydref 16eg fe gynhaliodd y prifddisgyblion wasanaeth rithiol i’r ysgol gyfan er mwyn cyhoeddi pwy sydd wedi eu hethol ar gynghorau ffês yr ysgol eleni. Roedd hi’n dasg anodd tu hwnt i bori drwy maniffestos pob un a dethol a dewis yr aelodau newydd. Llongyfarchiadau enfawr i bawb a ddewiswyd y tro hwn a phob lwc gyda’ch cyfrifoldebau!