Gwasanaeth Diolchgarwch 2020
Eleni cynhaliwyd gwasanaeth diolchgarwch rithiol am y tro cyntaf erioed!
Heddiw cynhaliwyd gwasanaeth diolchgarwch gwahanol iawn i’r arfer - heb gapel nac eglwys na rhieni. Fe gynhaliwyd diolchgarwch rithiol! Llongyfarchiadau i’r disgyblion am baratoi a chymryd rhan mor wych!
Diolch i ddisgyblion Blwyddyn 6 am ein harwain drwy’r gwasanaeth. Diolch yn arbennig hefyd i’r Parchedig Carwyn Arthur am y fendith i gloi’r gwasanaeth.