Canlyniadau TGAU rhagorol!
Llongyfarchiadau mawr i'n holl ddisgyblion ar eu canlyniadau TGAU rhagorol eleni
Rydym yn falch iawn o lwyddiannau ein disgyblion! Yn sicr nid yw eleni wedi troi allan fel ro'n ni'n disgwyl ac ni allai neb fod wedi rhagweld y byddai eich amser yn Ysgol Henry Richard wedi dod i ben mor sydyn. Fodd bynnag, rydym yn hynod falch o'ch gwaith caled a'ch cyflawniadau. Rydych chi'n griw ffab!
Rydym yn dymuno'r gorau i chi ar gyfer y dyfodol a diolch am eich cyfraniadau gwerthfawr i'r ysgol dros y blynyddoedd diwethaf. Cofiwch gadw mewn cysylltiad a galwch heibio i'n gweld pan allwch chi!