Skip to content ↓

Blwyddyn 6 yn Camu Ymlaen!

Gwyliwch ein ffilm sy'n dathlu llwyddiannau Blwyddyn 6

 

BLWYDDYN 6 - Ry'ch chi'n ddosbarth bendigedig sy'n llawn o strabs a chymeriadau hyfryd! Mae wedi bod yn bleser gwylio eich taith drwy'r sector gynradd a'ch gweld yn tyfu lan yn unigolion cwrtais a pharchus ac edrychwn ymlaen at weld eich taith yn parhau ym mlwyddyn 7. Mae rhodd arbennig ar ei ffordd i chi gyda'r postmon - diolch i Argraffwyd Lewis and Hughes am argraffu cerdd hyfryd Mrs Enfys Hatcher Davies. Yn anffodus nid oedd hawl gennym gynnal y seremoni Camu Ymlaen arferol eleni ond dyma ffilm arbennig o'ch uchafbwyntiau ac atgofion melys. Diolch i Miss Sara Davies am ganu ar y ffilm ac i Mrs Hatcher am ddarllen ei cherdd. Joiwch!