Skip to content ↓

Codi £3360 i Ysbyty Felindre!

Taith gerdded rithiol er mwyn parhau gyda thraddodiad y daith gerdded flynyddol

 

Er nad oedd hi’n bosib cynnal y daith gerdded arferol eleni nid oedd hyn yn mynd i atal staff a disgyblion Ysgol Henry Richard rhag cynnal y digwyddiad a chodi arian ar gyfer Canolfan Ganser Felindre. Aeth pawb ati ar wahân eleni i gerdded neu redeg gymaint o filltiroedd a phosib. Bu rhai’n cerdded o gwmpas eu gerddi ac eraill yn cerdded yn lleol. Llwyddodd Mr Huw Bonner a Mr Iwan Davies i redeg yr hen lwybr tra dewisodd y Pennaeth, Mr Dorian Pugh, i gerdded – draw ac yn ôl! Roedd y daith yn wahanol iawn eleni, ond yr un oedd yr ymroddiad i gefnogi elusen haeddiannol tu hwnt a braf oedd medru cynnig y cyfle i rieni ac aelodau’r gymuned i gymryd rhan.

Hoffai’r ysgol ddiolch o galon i bawb a gyfrannodd mewn unrhyw ffordd – trwy gerdded, rhedeg neu noddi. Llwyddwyd i gerdded 1150 o filltiroedd ar y cyd a chodwyd swm anhygoel o £3360 ar gyfer yr achos.