Skip to content ↓

Ysgolion Iach

Prif nod y cyngor yw i hyrwyddo a chefnogi cynlluniau ysgolion iach cenedlaethol o fewn yr ysgol. Mae ystod o feysydd ffocws i dargedu yn flynyddol ac yn 2015 llwyddodd yr ysgol i sicrhau tystysgrif CAM 1 yn dilyn y gwaith gwnaethpwyd i hyrwyddo manteision ymarfer corff ac arferion bwyta’n iach o fewn yr ysgol. O ganlyniad mae athrawon er enghraifft yn gwobrwyo disgyblion gyda ffrwyth yn hytrach na danteithion. Mae coed afalau a llwyni ffrwythau wedi eu plannu tu allan i’r bloc technoleg ac ystod o weithgareddau ymarfer corff a ffitrwydd yn digwydd yn wythnosol.

Ar hyn o bryd mae’r pwyllgor yn gweithio tuag at sicrhau cymhwyster Cam 2 gan ffocysu ar ‘Hylendid’ a gwella ‘Amgylchedd’ yr ysgol. Mor belled mae llawer o waith cadarnhaol wedi digwydd parthed toiledau Ysgol Henry Richard; mae bob un wedi eu paentio’n ddestlus ac mae peiriannau sychu dwylo, drychau newydd a ffotograffau addurniadol hyfryd wedi eu gosod ar y muriau.